Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 5 Hydref 2023
Amser:
09.34 -
11.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13772
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Darren Millar AS Sarah Murphy AS Jane Dodds AS |
Tystion: |
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Anna Hind, Llywodraeth Cymru Will Whiteley, Llywodraeth Cymru Tom Jackson, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Catherine Roberts (Dirprwy Glerc) Gruffydd Owen (Cynghorydd Cyfreithiol) Josh Hayman (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.
2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
3 Papurau i'w nodi
3.1 PTN 3.1 – Nodyn technegol gan Lywodraeth Cymru ar y dull o ymdrin â chwyddiant a'r defnydd o gyfradd ddisgownt Trysorlys EF a datchwyddyddion cynnyrch domestig gros yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Nododd y Pwyllgor y nodyn technegol.
3.2 PTN 3.2 – Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch y Bil cwotâu rhywedd disgwyliedig – 26 Medi 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
6 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): dull y Pwyllgor o graffu yng Nghyfnod 1
Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Bil a chytunodd arno.